| Neges
gan y Cadeirydd
Croeso
i argraffiad cyntaf Cylchlythyr y Cawr sy’n Gorwedd (Y Cawr
Cwsg). Y mae hon yn flwyddyn gyffrous i ni gyda nifer o’n
prosiectau sefydlog wedi gwneud cynnydd da. Hefyd, eleni, yr ydym
yn bwriadu gwneud ein ffilm newydd a fydd yn hyrwyddo twristiaeth.
Hoffwn groesawu ein Swyddog Datblygu newydd, Eleanor Flaherty,
a ddechreuodd gyda ni ym mis Mai. Y mae ganddi sgiliau mewn cyfryngau
newydd, ffilmio, y celfyddydau creadigol a drama yn y gymuned,
ymhlith eraill.
Hefyd, hoffwn ddiolch Bella Mills am ei gwaith called a’i
hymroddiad fel Cyfarwyddwr SCG dros y blynyddoedd diwethaf. Fe
fydd Bella yn symud i Lundain ar ddiwedd mis Mehefin i fod yn
nes i‘w theulu.
| 
Cadeirydd SCC, Bill Toye |

Clawr llyfr Len Ley sydd ar
fin cael ei gyhoeddi |
Cyhoeddi
Llyfr Hanesyddol
Rhoddwyd
cyfle i’r hanesydd lleol a’r sarjant heddlu ymddeoledig,
Len Ley, i gyhoeddi ei lyfr newydd ‘The Iron Cradle’.
Y mae cyhoeddi’r llyfr hwn sy’n ymwneud â hanes
Ystradgynlais a’r Cylch yn cael ei ariannu gan Awdurdod
Datblygu Cymru drwy law SCG. Y mae’r llyfr sydd ar fin cael
ei gyhoeddi wedi denu llawer o ddiddordeb a thynnu sylw plant
ysgolion lleol. Dylai fod y llyfr ar werth erbyn y Nadolig, eleni.
Rhan o’r prosiect hwn oedd sicrhau bod y llyfr ar gael yn
Llyfrgell Ystradgynlais ar gyfer y cyhoedd. Yr ydym wedi cyflawni
hyn gyda chymorth SCG drwy gynhyrchu’r llyfr mewn fformat
CD ROM. Fe fydd SCG yn lansio’r llyfr hwn nes ymlaen yn
y flwyddyn yn Neuadd Les y Glowyr, Abercrâf. Fe fydd hwn
yn gyfle i gwrdd â Len, i weld rhannau o’i waith ac
i brynnu’r llyfr.
|
Diweddaru’r
Cyfryngau Newydd
Ar
hyn o bryd, yr ydym yn diweddaru ein safle gwe www.sgfnet.co.uk
ac mae myfyriwr cyfryngau newydd lleol, Toby Godden (www.gravity-design.co.uk),
yn gweithio gyda SCG er mwyn diweddaru’r safle a fydd yn
cynnwys y manylion diweddaraf ar y prosiectau, rhestri o ddigwyddiadau
a newyddion eraill. Hefyd, caiff cynnwys y safle ei gyfieithu
i’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ar gael i bawb.
Dylech chi fod yn gallu defnyddio’r safle newydd hwn ar
ddiwedd mis Mehefin.
Eleni, yr ydym yn gobeithio cael y bobl leol i gymryd rhan yn
y ffilmio a chynhyrchu’r ffilm a fydd yn hyrwyddo ein hardal.
Amcan y ffilm, a gaiff ei roi ar DVD, yw hyrwyddo busnesau ac
annog twristiaeth a gellir ei ddefnyddio’n yr ardal ac ymhell.
Gall grwpiau lleol fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio ein hadnoddau
i greu ffilmiau er mwyn hyrwyddo eu gwaith eu hun.
Gallwn
gynnig hyfforddiant i’r sawl sydd eisiau profiad mewn ffilmio,
goleuadau, sain, golygu a phrofiad ôl gynhyrchu. Am ragor
o wybodaeth, cysylltwch ag Eleanor ar 01639 731062
|

Eleanor Flaherty,
Swyddog Datblugu |

Yr afon Tawe yn rhedeg ynochr a Llwybr Macho |
Llwybr Macho –
Amseroedd Anodd
Y mae llawer ohonoch yn ymwybodol
o’r gwaith cyfredol sydd yn cael ei wneud gan y SGF er mwyn
adnewyddu a hyrwyddo’r llwybr glan afon. Fe ddechreuodd
hyn lawer o flynyddoedd yn ôl ond o bryd i’w gilydd,
y mae’r gwaith wedi cael ei rwystro am nad yw rhai’n
fodlon cymryd cyfrifoldeb am atebolrwydd dros y llwybr. Y mae
gan y llwybr hwn a’r gored sy’n gysylltiedig ag ef
lawer o agweddau hanesyddol, ecolegol a daearegol pwysig. Hefyd,
gall y bobl leol fynd yno i fwynhau prydferthwch a thawelwch yr
ardal ac i fod yn nes i natur.
Y mae SCG wedi cysyllyu â’r
perchnogion, British Waterways, er mwyn gwneud gwaith adferol
sylfaenol. Y mae Cyngor Tref Ystradgynlais wedi clustnodi swm
o arian i wneud y gwaith ond ni allant ryddhau arian os nad yw’r
llwybr wedi cael eu gofrestru. Nid yw British Waterways yn barod
i gytuno ar gytundeb creu, oherwydd maent yn credu fe fyddai hyn
yn rhoi rhagor o gyfrifoldebau iddynt – cyfrifoldebau nad
ydynt yn fodlon eu derbyn. Y mae British Waterways yn fodlon cytuno
ar drwyddedu’r gwaith ond nid yw hyn yn ddigon i Gyngor
Tref Ystradgynlais ryddhau’r arian. Rhaid i’r gwaith
gael ei wneud ar frys oherwydd nid yw’r draeniad yn addas
ac mae coed yn tanseilio strwythur y llwybr. Ar hyn o bryd, y
mae SGF yn archwilio ffyrdd eraill o gofrestru ac ariannu. Yr
ydym wedi ymrwymo ein hunain i weld y llwybr prydferth hwn yn
cael ei warchod er mwyn i’r gymuned leol, y genhedlaeth
bresennol a’r un sydd i ddod, ei fwynhau a’i ddefnyddio
ar gyfer ymlacio ac addysg.
Os ydych chi wedi bod yn defnyddio’r llwybr dros nifer o
flynyddoedd, dewch i’n digwyddiad cymdeithasol ar Orffennaf
4ydd pan fydd ffurflenni ar gael i’w llofnodi. Fe fydd hyn
yn ein helpu wrth i ni geisio cael y llwybr wedi’i gofrestru.
|
Hanes
Llafar –
Ein Hetifeddiaeth, Eich Atgofion
A
oeddech chi’n blentyn neu yn oedolyn yn y 1930au ac yn byw
yng Nghwmtawe Uchaf?
Hoffem gofrestru eich atgofion a’ch profiadau o’r
cyfnod hwnnw – neu efallai yr oeddech yn blentyn neu yn
oedolyn ac yn byw yma yn ystod y 1950au. Fe fydd ein prosiect
yn ceisio cofnodi y newidiadau a ddigwyddodd yn y cwm cyn ac ar
ôl y rhyfel.
Y mae dros ddwsin o bobl wedi bod ar gwrs cyfweld (pum drwy gyfrwng
y Gymraeg a mwy na chwech drwy gyfrwng y Saesneg) a gafodd ei
drefnu gan Amgueddfa Sain Ffagan a’r Gymdeithas Hanes Llafar.
Erbyn hyn, yr ydym yn barod i recordio’r bobl leol a rhoi’r
recordiau hyn i Adran Archif Powys. Gallwn gopïo ffotograffau
a phethau cofiadwy gan ddefnyddio ffotogopïwr cludadwy.
Os hoffech chi gael cyfweliad neu fod yn rhan o’r broses
hon mewn unrhyw ffordd, yna, cysylltwch â’n Swyddog
Datblygu, Eleanor ar 01639 731062
|

Cynthia
Mullan yn rhoi cyfweliad i Eileen Barker |
© The Sleeping Giant Foundation
2005 |